Y Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol - Cadeirydd: Darren Millar AC
Dydd Mercher 14 Hydref 2015, 12:15
Ystafell Gynadledda 21 – Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn bresennol:
Enw |
Sefydliad |
Darren Millar AC |
Cadeirydd, Aelod Cynulliad Gorllewin Clwyd |
Mia Rees |
Ysgrifennydd |
Cyrnol Lance Patterson |
Cyrnol L Patterson, Dirprwy Gadlywydd, Brigâd 160 y Troedfilwyr a Phencadlys Cymru |
Is-gyrnol Jim McLaren |
Is-gyrnol Jim McLaren OBE RM, Pennaeth Staff, NRHQ (WWE) |
Barbara McGregor |
NRHQ (WWE) |
Comodor Awyr Adrian Williams, Swyddog Awyr Cymru - y Llu Awyr Brenhinol |
Y Llu Awyr Brenhinol, Cymru |
Cyrnol N R Beard TD DL |
Prif Weithredwr, Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru |
Jo Dover
|
Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau a Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, Cymru a de-orllewin Lloegr, y Gwasanaeth Lles Amddiffyn Meddygol (DMWS) |
Yr Athro F D Rose |
Cydlynydd, Prifysgolion yn Cefnogi Personél sydd wedi'u Clwyfo, sydd wedi'u Hanafu ac sy'n Sâl (UNSWIS) |
Mark Axler |
Cyfarwyddwr MAON ac Arweinydd Prosiect Allgymorth Ffilm y Cyfamod Cymunedol |
Lindsay Whittle AC |
Aelod Cynulliad dros Ddwyrain De Cymru |
Angela Burns AC |
Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro |
1) Gair o groeso gan y Cadeirydd ac ymddiheuriadau
Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r grŵp i'r cyfarfod.
Gwahoddodd y Cadeirydd bawb o amgylch y bwrdd i gyflwyno eu hunain yn eu tro (gweler y rhestr o bawb a oedd yn bresennol uchod) a rhoddodd fanylion ynghylch yr ymddiheuriadau a gafwyd.
Cafwyd ymddiheuriadau gan:
· David Melding AC
· Comodor Jamie Miller - Y Llynges Frenhinol
· Y Brigadydd Gamble - Y Fyddin
· Trevor Edwards, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, y Gwasanaeth Lles Amddiffyn Meddygol
· Chris Downward MC, Cadeirydd, Pwyllgor Cynghori a Phensiynau Cyn-filwyr Cymru, Cynrychiolydd Rhanbarthol ac Ymddiriedolwr, Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd yng Nghymru (gobeithio dod i'r cyfarfod nesaf)
· Dr. Neil J. Kitchiner, Prif Glinigydd ac Arweinydd Anrhydeddus Ymchwil i Iechyd Meddwl ymhlith Cyn-filwyr, GIG Cyn-filwyr Cymru
2) Y wybodaeth ddiweddaraf o ran nodi blwyddyn ers trawsnewid y lluoedd i Frigâd Gosodadwy mewn Llu Addasol
- Cyrnol L Patterson, Dirprwy Gadlywydd, Brigâd 160 y Troedfilwyr a Phencadlys Cymru
(Mae copi o’r cyflwyniad Powerpoint a ddefnyddiwyd ar gyfer yr eitem hon ar gael ar gais.)
Y prif bwyntiau:
· Daeth Brigâd 160 y Troedfilwyr yn osodadwy flwyddyn yn ôl.
o Gyrrwyd y newid hwn gan yr Uwchgynhadledd NATO a gynhaliwyd yng Nghasnewydd.
· Swyddogaeth wreiddiol y Frigâd oedd gweithredu yn y DU. Erbyn hyn, mae ganddi swyddogaethau eraill:
o Ymgysylltu â gwledydd tramor i adeiladu gallu a lleihau'r posibilrwydd o ymyrraeth yn y dyfodol.
o Gweithrediadau wrth gefn mewn lleoliadau tramor, gan gynnwys ymladd rhyfeloedd.
· Mae meysydd blaenoriaeth y Frigâd yn cynnwys:
o Darparu elfennau o'r lluoedd sy'n barod i ymgymryd â thasgau amrywiol, gan gynnwys dyletswyddau seremonïol a gweithrediadau mewn lleoliadau tramor ac yn y DU.
o Cydnerthedd
o Gweithredu at ddibenion amddiffyn mewn lleoliadau tramor.
· Mae'n bwysig bod Gweinyddiaeth yr Amddiffyn yn cymryd datganoli i ystyriaeth er mwyn sicrhau canlyniadau cyson ar gyfer teuluoedd y Gwasanaeth. Mae Pencadlys Cymru yn cael ei gynrychioli yn fforwm datganoli'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Dyma enghreifftiau o faterion sy'n cael eu trafod:
o Y rhaglen flaenorol ar gyfer ehangu nifer y cadetiaid
o Gwahaniaethau o ran y polisïau ar gyfer rhoi organau
o Gwahaniaethau o ran sicrhau cydnerthedd
· Mae goruchwyliaeth y Frigâd cynnwys lluoedd wrth gefn a chadetiaid.
o Eglurodd Patterson bod yr unedau wrth gefn yng Nghymru yn cael eu rheoli gan Frigâd 160 y Troedfilwyr, ond nid ydynt yn cael gorchmynion gan y Frigâd. Felly, gall y Frigâd ofyn i unedau wrth gefn Cymru wneud pethau, ond ni all roi gorchymyn iddynt wneud y tasgau hynny.
o Roedd y Frigâd yn rhoi gorchmynion i ddau fataliwn rheolaidd a dau fataliwn wrth gefn (REIFFLAU 1 a 6 a GWYDDELOD 1 a 2) - maent i gyd y tu allan i Gymru. Mae bataliwn REIFFLAU 1 wedi'i leoli yng Nghas-gwent, ond mae ganddo god post sir Gaerloyw.
· Mae canolfan y Frigâd yn Aberhonddu, lle mae Ysgol Frwydo’r Troedfilwyr hefyd wedi'i lleoli.
· Mae pencadlys y lluoedd wrth gefn wedi'u clystyru ar hyn o bryd yn ne-ddwyrain Cymru, er bod canolfannau hyfforddi ar gyfer y lluoedd wrth gefn ym mwyafrif y canolfannau poblogaeth.
· Roedd sleid yn cynnwys manylion ynghylch ymrwymiadau Brigâd 160 y Troedfilwyr a Phencadlys Cymru (gweithrediadau ac ymarferion), a oedd yn dangos bod "Cymru'n gweithredu ledled y byd":
o Wcráin
o Irac
o Affrica - Ebola
o Afghanistan
· Mae ymarfer patrolio mwyaf blaenllaw'r byd (Patrôl y Cambrian) yn cael ei gynnal gan y Frigâd yng Nghymru bob mis Hydref. Mae hon wedi bod yn flwyddyn hanesyddol, gyda 126 o batrolau wedi'u cynnal gyda 21 o dimau tramor.
· Yn ogystal, o ran gwaith ymgysylltu mewn perthynas ag amddiffyn, mae yna weithgareddau lefel isel, pŵer meddal yn digwydd drwy'r Balcanau, drwy ddwyrain Ewrop, Cawcasws y De a thrwy Ganol Asia, gan gynnwys darparu cefnogaeth ar gyfer bandiau milwrol a hyfforddiant anturus.
· Mae gwaith cynllunio wrth gefn yn parhau yn y DU mewn perthynas â:
o Streic posibl mewn perthynas â thanceri tanwydd
o Streic posibl mewn perthynas â'r Frigâd Dân
o Streic posibl mewn perthynas â gwasanaethau carchardai
o Achosion posibl o ddifa bomiau a bygythiadau gan derfysgwyr
· Cyfeiriodd Patterson at y rhaglen ar gyfer ehangu nifer y cadetiaid, a soniodd am y taflenni a ddarparwyd ar y datblygiadau hyn gan Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru. Cafodd y taflenni hyn eu darparu i bawb yn y cyfarfod.
· Roedd digon o gynnydd yn cael ei wneud o ran Cyfamod y Lluoedd Arfog.
· Mae recriwtio ar gyfer y lluoedd wrth gefn yn parhau i fod yn ofyniad cynyddol.
o Roedd yr ymgyrch ar gyfer recriwtio i'r gwasanaeth sifil yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn llwyddiannus.
o Mae'r broses o adeiladu ar yr ymdrechion a wnaed i ymgysylltu â chyflogwyr at ddibenion cefnogi'r lluoedd wrth gefn yn elfen bwysig o'r darlun hwn.
Cwestiynau gan y Grŵp:
Cadeirydd: Cronfa'r Cyfamod - Beth yw'r gwahaniaethau pwysig?
· Mae'r ceisiadau'n cael eu cyflwyno yn ganolog, cyn cael eu hanfon yn ôl i Gymru i gael eu sgrinio a'u blaenoriaethu. Yn dilyn hynny, maent yn cael eu trosglwyddo i'r grwpiau rhanbarthol; yna, maent yn mynd yn ôl i fyny'r gadwyn gydag argymhellion.
Cadeirydd: A ydym yn cael nifer dda o geisiadau yng Nghymru?
· Ydym. Mae nifer dda, ac mae pobl yn dod yn ymwybodol o sut y mae'r broses yn gweithio.
· Mae'r rhan fwyaf o geisiadau yn dod drwy hyrwyddwyr y lluoedd arfog ac awdurdodau lleol.
o Cafwyd mewnbwn gan Gomodor Awyr Adrian Williams, a oedd yn eistedd ar Fwrdd y Cyfamod ar gyfer Cymru.
Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle hwn i dynnu sylw'r Grŵp at y papur briffio a ddarparwyd gan Nick Beard, Prif Weithredwr Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru, a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar rymoedd cadetiaid yng Nghymru.
Darparwyd adborth gan Beard:
· Cafodd y sefydliad groeso cynnes gan y Gweinidog.
· Mae'r Gweinidog yn awyddus i Gymru fod yn rhan o'r rhaglen ar gyfer ehangu nifer y cadetiaid.
· Ar hyn o bryd, maent yn aros i Weinyddiaeth yr Amddiffyn roi adborth i'r Gweinidog/ei staff.
· Rhoddodd y Cadeirydd ychydig o gefndir parthed y pryderon hyn.
· Cadarnhaodd Beard ei bod yn fenter deirochrog o ran y lluoedd.
o Mae llawer o fanylion i'w penderfynu o hyd ynghylch y dosbarthiad rhwng y tri gwasanaeth.
· Cadarnhaodd Beard y dylai Aelodau'r Cynulliad aros cyn cysylltu ag ysgolion am y datblygiadau cadarnhaol.
o Bydd £3 miliwn yn dod i Gymru, a bydd hynny'n debygol o effeithio ar 25 o ysgolion.
· Pwysleisiodd Patterson fod angen cynnal trafodaethau pellach ar y manylion a'r effaith y gallai camau o'r fath eu cael ar bencampwyr cyfredol y lluoedd arfog.
· O ran datblygu Lluoedd y Cadetiaid Cyfun mewn ysgolion, bydd y penderfyniad hwn yn cael ei wneud gan benaethiaid a'u llywodraethwyr.
Cam gweithredu: Ysgrifennu at y Gweinidog yn mynegi diddordeb yn y ffordd y bydd y mater hwn yn datblygu.
3) Cyflwyniad gan yr Athro F D Rose, Cydlynydd, Prifysgolion yn Cefnogi Personél sydd wedi'u Clwyfo, sydd wedi'u Hanafu ac sy'n Sâl (UNSWIS)
(Mae copi o’r cyflwyniad Powerpoint a ddefnyddiwyd ar gyfer yr eitem hon ar gael ar gais.)
· Mae UNSWIS yn rhwydwaith o brifysgolion sydd wedi ymrwymo i gynorthwyo cymuned y Lluoedd Arfog.
· Eglurodd Rose sut y datblygodd UNSWIS:
o Deilliodd y syniad hwn o ymweliad ffisiotherapydd sydd wedi'i leoli mewn Prifysgol â Chwrt Headley.
o Dechreuodd y ffisiotherapydd ofyn am yr hyn y gall y Prifysgolion ei wneud i helpu Cyn-filwyr.
o Wedi i bobl gael therapi, sicrhau mynediad at hyfforddiant neu brofiad gwaith oedd yr her fawr nesaf.
o Roedd busnesau—ond nid prifysgolion—eisoes yn ymwneud â'r mathau hyn o brosiectau.
· Yn ystod yr ymgynghoriad cychwynnol, siaradwyd â:
o Threian o'r holl brifysgolion
o Elusennau'r gwasanaeth
o Busnesau sydd eisoes yn gweithio gyda chymuned y Lluoedd Arfog
· Roedd y Grŵp Llywio Partneru ynghylch Gyrfaoedd Amddiffyn yn gefnogol o'r syniad
· Mae gan brifysgolion ôl-troed ledled y DU
· Mae prifysgolion yn fusnesau sydd werth miliynau o bunnoedd ac mae ganddynt seilwaith enfawr
o Mae llawer o gyflogaeth yn gysylltiedig ag adrannau academaidd, yn ogystal ag adnoddau
· Beth y mae UNSWIS yn ei wneud?
o Sesiynau blasu: Beth sy'n digwydd mewn prifysgol? Agor llygaid pobl, y tu hwnt i ystrydebau'r gorffennol.
o Sesiwn gynghori: Siarad ag arbenigwyr pwnc. 'Sut ydw i'n teithio o A i B o ran fy ngyrfa?
o Cysgodi a phrofiad gwaith - yn aml gydag aelod o staff (sydd hefyd yn gyn-filwr) sy'n chwarae rôl mentor.
· Mae prifysgolion hefyd wedi cynnal teithiau/ymweliadau â grwpiau o tua 15 o bobl ar y tro. Mae'n well gan rai pobl y math hwn o drefniant.
· Mae gwaith wedi'i wneud gyda Chynghorwyr Cyflogaeth Arbenigol, ond roedd diffyg galw yn eu plith.
o Roedd yna amrywiaeth ranbarthol ond, yn gyffredinol, roedd nifer y bobl a fanteisiodd yn isel.
o Felly, cafodd y cynllun ei ymestyn i gynnwys aelodau o deuluoedd y cyn-filwyr.
· Mae UNSWIS yn cael atgyfeiriadau gan nifer o elusennau milwrol amlwg.
· Y weithdrefn ar gyfer sefydlu lleoliadau:
o Galwad ffôn
o Cysylltu â'r brifysgol
o Cyfarfod gyda'r person a'r partïon cysylltiedig
o Beth fyddai'r peth mwyaf defnyddiol iddynt?
o A yw'r cais i'r brifysgol yn rhesymol?
o Mae'r prosiect yn wahanol i brosiectau tebyg mewn cwmnïau mawr/yn y sector cyhoeddus gan ei fod wedi ei deilwra'n benodol iawn.
· Hyd yma, mae 150 o geisiadau wedi dod i law; mae 50% ohonynt wedi arwain at brofiadau go iawn.
· Maent yn cael adborth gan dreian o'r bobl a gafodd gymorth.
· Nid yw UNSWIS yn elusen
· Yr her ar hyn o bryd yw nodi dyfodol cynaliadwy i UNSWIS
Cwestiynau/sylwadau gan y Grŵp:
Mark Axler: Ers sefydlu Cyfamod y Lluoedd Arfog ym mis Mai 2011, pa wahaniaeth y mae wedi'i wneud o ran y gwaith hanfodol yr ydych chi'n ei wneud?
· Nid yw wedi gwneud gwahaniaeth mawr, ac ni wnaethom gais am grant gan y Cyfamod Cymunedol.
Patterson: A oes lle i ehangu ymhellach? Er enghraifft, gweithio gyda milwyr wrth gefn?
· Byddai hynny'n golygu y byddai'r ymarfer yn fwy ac y byddai angen ei drefnu mewn modd gwahanol, o bosibl.
Patterson: Bydd yn siarad gyda'i dîm ynglŷn â hyrwyddo UNSWIS.
Yn anffodus, nodwyd mai dim ond dwy brifysgol yng Nghymru sy'n cymryd rhan.
Cam gweithredu: Ysgrifennu at holl brifysgolion Cymru am UNSWIS.
Angela Burns AC: Bydd yn cyfarfod â rhai prifysgolion maes o law (gan gynnwys Prifysgol Metropolitan Caerdydd yr wythnos nesaf) a bydd yn sôn am UNSWIS.
4) Busnes y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
· Ail-ethol Darren Millar yn Gadeirydd - Gwnaed y cynnig gan Angela Burns AC, a chytunodd y Grŵp arno
· Ail-ethol Mia Rees yn Ysgrifennydd - Gwnaed y cynnig gan Angela Burns AC, a chytunodd y Grŵp arno
5) Rhaglun a Gwybodaeth am Brosiect Allgymorth Ffilm y Cyfamod Cymunedol
Mark Axler, Cyfarwyddwr MAON ac Arweinydd Prosiect Allgymorth Ffilm y Cyfamod Cymunedol
(Mae copïau o raglun y prosiect a nodiadau siarad Axler ar gael ar gais)
· Perfformiad cyntaf rhaglun y Prosiect yng Nghymru
· Cafodd ei ariannu'n llawn gan gynllun grant y Cyfamod Cymunedol
· Cefndir Axler:
o Wedi gweithio yn y Fyddin ers dros 20 mlynedd.
o Wedi sefydlu MAON 10 mlynedd yn ôl i geisio canfod atebion arloesol i'r problemau heriol sy'n effeithio ar y Gwasanaethau Cyhoeddus a chyfnod pontio ac integreiddio Cymuned y Lluoedd Arfog o ran Addysg, Iechyd, Cyflogaeth, Iechyd Meddwl, Tai a Lles.
o Cafodd y prosiect ei ysbrydoli gan ymdeimlad Mark mai un o'r ffyrdd y gall ymrwymiad arwain at weithredu yw drwy alluogi pobl sy'n helpu newid bywydau er gwell i ysbrydoli eraill i wneud hynny drwy rannu eu straeon.
· Cafodd Prosiect Allgymorth Ffilm y Cyfamod Cymunedol ei gymeradwyo er mwyn cyfrannu at amcanion cyffredinol y Cyfamod Cymunedol drwy wneud ffilmiau cadarnhaol am effaith a chanlyniadau y Cyfamod Cymunedol a'r Cynllun Grant, ac i ryddhau'r ffilmiau drwy Raglen Allgymorth Cymunedol ar gyfer Ymgysylltu ynghylch Gwybodaeth Addysg ar draws y DU.
· Mae rhaglun y Prosiect - Y Cyfamod Cymunedol ar Waith - yn dathlu'r canlyniadau cadarnhaol sy'n cael eu cyflawni ac yn ein hatgoffa bod mwy y gallwn i gyd ei wneud gyda'n gilydd.
· Canlyniadau'r prosiect
o Ehangu dealltwriaeth, codi ymwybyddiaeth a chynyddu'r gefnogaeth ar gyfer y Cyfamod Cymunedol.
o Annog y Genedl, y Gymdeithas Amddiffyn a Chymdeithas Sifil i ymrwymo i'w gefnogi a'i anrhydeddu.
o Dangos a rhannu ffyrdd gweledol o ddysgu gwersi ymarferol gan eraill.
· Diolch i bawb am bopeth yr ydych yn ei wneud i gefnogi pobl yn ein cymunedau sy'n gwasanaethu, neu wedi gwasanaethu, ynghyd ag aelodau o'u teuluoedd.
Cwestiynau/sylwadau gan y Grŵp:
Cadeirydd: Mae angen rhagor o ymgysylltu â gwasanaethau eraill sy'n ymwneud â'r cyfamod, er enghraifft, y GIG
Patterson: Mae ymgysylltu â chyn-filwyr yn y carchar yn gynllun da
Williams: Heddluoedd - angen mwy o waith o hyd
Cadeirydd: Mae gan Fyrddau Iechyd Bencampwyr ar gyfer Cyn-filwyr, ond beth y maent yn ei wneud?
Cam gweithredu: Gwahodd Peter Higson i'r cyfarfod nesaf i drafod ymateb GIG Cymru i'r Cyfamod.
6) Trafodaeth: Ymweliadau ag ysgolion Milwrol - Adborth gan y Cadeirydd ynghylch y ddadl
Nododd Cadeirydd fod y ddeiseb a gyflwynwyd yn ddiweddar i'r Pwyllgor Deisebau yn galw am waharddiad llwyr ar y Lluoedd Arfog o ran recriwtio mewn ysgolion.
Crynhodd y Cadeirydd y drafodaeth fel a ganlyn:
· Roedd y Dirprwy Weinidog yn cefnogi'r ffaith y bydd y Lluoedd Arfog yn parhau i ymweld ag ysgolion.
· Lleisiodd aelodau Cynllun Lluoedd Arfog y Cynulliad Cenedlaethol eu cefnogaeth, ac roedd hynny'n wych.
o Nododd y Cadeirydd mai dim ond y Llynges sydd ar ôl o ran cynnal ymweliad gan Aelod.
Awgrymodd y Cadeirydd y dylai'r Lluoedd a oedd yn bwriadu ymweld ag ysgolion wahodd Aelodau'r Cynulliad i ymuno â nhw er mwyn dangos yr hyn y maent yn ei wneud.
7) Gofynnodd y Cadeirydd a oedd unrhyw fusnes arall. Nid oedd unrhyw fusnes arall.
Daeth y cyfarfod i ben am 13:25.